| Skip to main content | Skip to main menu | Skip to website information |

Cantre Mobility

Making Life Easier - Freephone: 0808 100 11 33

Amdanom Ni

Sefydlwyd Cantre Mobility ym 1995 i ddarparu ystod llawn o offer a chymhorthion symudedd. Gwnaethpwyd hyn o ganlyniad i'r ffaith bod mam Nest a Huw yn dioddef Sglerosis Ymledol a bod angen cymhorthion arni i'w chynorthwyo i symud o gwmpas a bod yn gyffyrddus. Ar y pryd, roedd yn rhaid gyrru dwy awr i gyrraedd y safle gwerthu arbenigol agosaf.

Mae'r busnes wedi datblygu a thyfu o ganlyniad i'r empathi sydd rhyngddynt a phobl mewn amgylchiadau tebyg. Asesir anghenion pobl cyn gwneud unrhyw argymhellion ynghylch cyflenwi unrhyw gynnyrch.

Mae Cantre Mobility yn darparu cymorth ar ôl gwerthu gan gynnwys gwarant, gwasanaethu a gwaith trwsio ar gyfer pob cynnyrch a werthir ganddynt.

Yn ddiweddar, mae Cantre Mobility wedi ymuno â'r Rhwydwaith Gofal Cenedlaethol o werthwyr cymhorthion symudedd, offer a chynhyrchion gofal, a nhw yw eu cynrychiolydd yng Nghymru.

Gyda'r Brif Swyddfa yn Aberaeron, cangen yng Nghaerfyrddin a'r cyfleuster hwn ar y we, dim ond 'clic' neu alwad ffôn rhad ac am ddim sy'n rhaid i chi ei wneud i gysylltu â ni.

English

Symudedd
Rampiau Suitcase

Rampiau Suitcase

Wedi'u cynllunio ar gyfer sgwteri a chadeiriau olwyn, mae'r rampiau hyn yn cynnwys arwyneb gyrru gwrthlithro sy'n 30" o led.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cantre Mobility - cyflenwr blaenllaw
offer a chymhorthion symudedd yng Nghymru