| Skip to main content | Skip to main menu | Skip to website information |

Cantre Mobility

Making Life Easier - Freephone: 0808 100 11 33

Gwasanaeth Cymorth ar ôl Gwerthu

Mae'r cwmni yn falch o'r gwasanaeth a'r cymorth a gynigir ganddo ac mae'n gallu cynnig ymateb 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i geisiadau'n ymwneud ag offer pwysig yn torri. Y nod yw sicrhau bod peiriannwr yn cyrraedd y safle cyn pen tair awr pan fo hynny'n bosibl yn ymarferol.

Mae pedair fan gwasanaethu sy'n cynnwys yr holl offer angenrheidiol a pheirianwyr cymwys, ar gael ac yn barod i ymateb i unrhyw argyfwng. Lleolir y peirianwyr mewn mannau strategol ledled yr ardal weithredu er mwyn lleihau'r amser i gyrraedd y cwsmer. Mae gan y cwmni gontractau cyflenwi a gwasanaethu gyda'r holl Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol yn yr ardal weithredu.

Pan fyddwch yn prynu offer gan Cantre Mobility, gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwch yn gallu dibynnu arnom mewn unrhyw ddigwyddiad posibl.

English


Cantre Mobility - cyflenwr blaenllaw
offer a chymhorthion symudedd yng Nghymru