| Skip to main content | Skip to main menu | Skip to website information |

Cantre Mobility

Making Life Easier - Freephone: 0808 100 11 33

Gwybodaeth ynghylch Defnyddio'r Wefan

Mae'n bwysig bod pob un sy'n defnyddio'r Rhyngrwyd, beth bynnag fo eu hanabledd neu anghenion arbennig, yn gallu defnyddio'n safle. Gellir gweld gwybodaeth ynghylch sut y gall pobl sy'n dioddef gwahanol anableddau fanteisio ar y we, yn yr erthygl "How People with Disabilities use the Web" a "Understanding Web Accessibility". Mae Cantre Mobility yn cefnogi Campaign for Good Web Design RNIB hefyd.

Gall unrhyw ddyfais neu feddalwedd sy'n gallu dangos cynnwys ar y We, fanteisio ar wybodaeth yn y wefan hon, gan gynnwys porwyr testun yn unig, porwyr clywedol, meddalwedd darllen sgrîn a meddalwedd chwyddo sgrîn. Bydd nifer bach o ymwelwyr â'r safle sy'n defnyddio porwyr hen a phorwyr nad ydynt yn cydymffurfio â safonau, yn sylwi ar y ffaith na cheir cymaint o elfennau gweledol yng nghynllun y safle. Er y bydd pob porwr yn dangos yr holl gynnwys, gallai defnyddio'r porwyr hþn hyn effeithio ar y ffordd y mae'r cynnwys hwn yn ymddangos yn weledol ar y dudalen.

Addasu maint eich testun

Gellir ffurfweddu maint y testun a ddefnyddir ar y safle hwn yn eich porwr. Gallai'r nodwedd hon fod yn ddefnyddiol os oes gennych nam ar eich golwg neu os oes gennych fonitor mawr neu fach.

Dylai maint testun diofyn eich porwr edrych yn dda, fodd bynnag, os yw'r gosodiad wedi cael ei newid, gallai testun ymddangos yn rhy fawr neu'n rhy fach. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i newid maint y testun.

Sylwer: ni ellir newid maint y cyfarwyddiadau ar y dudalen hon er mwyn sicrhau y gellir eu darllen o hyd. Defnyddiwch y paragraff canlynol i archwilio'ch gosodiadau.

Prawf - gellir newid maint y testun pennawd hwn.

Prawf - gellir newid maint y testun yn y paragraff hwn.

Dalennau Arddull

Mae'r safle hwn yn cynnwys Dalennau Arddull Rhaeadrol, sy'n galluogi defnyddwyr i gwsmereiddio'r tudalennau hyn er mwyn iddynt fod yn addas i'w hanghenion eu hunain gan ddefnyddio'u harddulliau eu hunain. Gallwch newid testun a lliwiau cefndir y safle hwn er mwyn diwallu'ch anghenion. Fel arfer, mae modd gwneud hyn yn newis y porwr neu'r gosodiadau hygyrchedd ond dylech droi at ddewis help eich meddalwedd am unrhyw wybodaeth am hyn.

Bysellau Cyrchu

Nodwedd a ddefnyddir i'w gwneud yn haws defnyddio'r safle yw Bysellau Cyrchu. Mae'r rhain yn fysellau llwybr byr a ddefnyddir i weld rhannau cyffredin neu rannau pwysig o'r safle yn syth. Mae rhestr bresennol y Bysellau Cyrchu ar y safle fel a ganlyn:

Rhif - 0 - mae'n eich tywys i'r rhestr hon o Fysellau Cyrchu.

Rhif - 1 - mae'n eich tywys i'r Dudalen Hafan.

Rhif - 8 - mae'n eich tywys i'r Amodau a Thelerau.

Rhif - 9 - mae'n eich tywys i'r Dudalen Sut i Gysylltu â Ni.

Llythyren - S - Skips Navigation



Llythyren - A - mae'n eich tywys i'n Catalog Ar-lein.

Llythyren - B - mae'n eich tywys i'n Tudalen Cynigion Arbennig.

Llythyren - C - mae'n eich tywys i'r Dudalen Fy Nghyfrif.

Llythyren - D - mae'n eich tywys i'n Tudalen Sut i Archebu Ar-lein.

Llythyren - E - mae'n eich tywys i'r Dudalen Gostyngiad TAW.

Llythyren - F - mae'n eich tywys i'r Dudalen Archebu Catalog Papur.

Llythyren - G - mae'n eich tywys i'r Dudalen Sut i Archebu All-lein.

Llythyren - H - mae'n eich tywys i'r Dudalen Amdanom Ni.

Llythyren - I - mae'n eich tywys i'r Dudalen Gwasanaethau Cymorth.

Llythyren - J - mae'n eich tywys i'n cysylltiadau.

I ddefnyddio'r Bysellau Cyrchu ar eich system, dilynwch y camau hyn oherwydd maent yn amrywio ychydig ar draws porwyr a systemau gweithredu:

Copi o'r Rhestr Bysellau Cyrchu y gellir ei lawrlwytho:
Microsoft Word Format 26Kb .DOC
Adobe Acrobat Format 13Kb .PDF

Trowch at y dewis help ar eich meddalwedd i gael gwybodaeth am lwyfannau eraill.

Downloadable copy of the Access Key List:
Microsoft Word Format 26Kb .DOC
Adobe Acrobat Format 13Kb .PDF

Tabio

I symud o gyswllt i gyswllt, gellir defnyddio'r fysell Tab i symud o gwmpas y safle heb orfod defnyddio llygoden. Er mwyn ei gwneud yn haws i'w ddefnyddio, cynhwyswyd system mynegai tab rhesymegol ar y wefan er mwyn sicrhau mai dim ond ychydig o weithiau y bydd angen gwasgu tab er mwyn cyrraedd cysylltiadau blaenoriaeth megis cofnod chwilio maes testun.

English


Cantre Mobility - cyflenwr blaenllaw
offer a chymhorthion symudedd yng Nghymru