| Skip to main content | Skip to main menu | Skip to website information |

Cantre Mobility

Making Life Easier - Freephone: 0808 100 11 33

Amodau a Thelerau

Mae'n hanfodol bod ein cwsmeriaid yn teimlo'n ddiogel a bod ganddynt hyder yn y gwasanaeth a gynigiwn. Mae Cantre Mobility yn gweithredu'r Cod Masnachwr ar y We canlynol sy'n god gwirfoddol. Nid yw'r cod hwn yn dirymu hawliau statudol cwsmeriaid dan y gyfraith mewn unrhyw ffordd ac fe'i cynlluniwyd i ychwanegu at iawndal cyfreithiol.

Gall ein Cwsmeriaid:

  1. Ganslo unrhyw archebion a wneir ar unrhyw adeg cyn iddynt gael eu dosbarthu heb orfod rhoi rheswm dros wneud hynny.
  2. Dan Rheoliadau Gwerthu o Bell 2000, gellir canslo archebion cyn pen 7 diwrnod gwaith a chyn pen 7 diwrnod gwaith o gael y nwyddau. Os ceir archeb na wnaethpwyd cais amdani, bydd y cyfnod canslo 7 diwrnod gwaith yn cychwyn ar y "diwrnod ar ôl" y diwrnod y cafwyd y nwyddau.
  3. Gellir gwneud archebion ar-lein gan ddefnyddio cerdyn credyd, trwy anfon cerdyn credyd ar wahân neu thrwy anfoneb proforma.

Prisiau

Nodir y prisiau mewn Punnoedd DU. Codir tâl am bostio a phacio ar raddfa sy'n adlewyrchu maint yr archeb, a'r pellter yn y DU ac ar draws y byd. Gellir gweld manylion llawn yma.

Dosbarthu

Dosbarthir yr holl archebion cyn pen 48 awr o'r arian yn cyrraedd. Os na allwn ddosbarthu cyn pen yr amser y cytunwyd arno am unrhyw reswm, byddwn yn eich hysbysu'n syth ac ar ôl i chi gytuno, yn trefnu amser arall i'w ddosbarthu.

Diogelwch

Prosesir yr holl fanylion talu gan ddefnyddio technoleg amgryptio 128 did.

Dychwelyd nwyddau ac ad-daliadau

Os nad ydych yn fodlon â chynhyrchion a brynoch gennym, gallwch eu dychwelyd yn yr un cyflwr cyn pen 7 diwrnod o'u cael a chael ad-daliad llawn gennym. Chi sy'n gyfrifol am dalu'r gost o'u postio'n ôl atom.

Nid yw'r Gwarant Cynnyrch Cyfyngedig hwn yn effeithio ar hawliau statudol y prynwr.

Derbynebau, biliau a chamgymeriadau setlo

Rydym bob amser yn darparu derbynneb gyda'r nwyddau. Byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau mewn biliau, derbynebau neu daliadau cyn gynted ag y bo modd.

Delio â chwynion

Rydym yn addo delio â chwynion mewn ffordd effeithiol a:

Mae gwasanaeth a chymorth ar gael i gwsmeriaid trwy gyfrwng E-bost unrhyw bryd neu thrwy ffonio'r rhif rhadffôn 0808 100 1133 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5.30 pm ac ar ddydd Sadwrn rhwng 9am ac 1.00pm.

Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch y datganiadau uchod at Wasanaeth Rheoli Cwsmeriaid Cantre Mobility (e-bost: info@comptoncymru.com i gael eglurhad.

English


Cantre Mobility - cyflenwr blaenllaw
offer a chymhorthion symudedd yng Nghymru