| Skip to main content | Skip to main menu | Skip to website information |

Cantre Mobility

Making Life Easier - Freephone: 0808 100 11 33

Gwybodaeth am TAW

Lawrlwythwch y ffurflen Gostyngiad TAW yma.PDF Icon (PDF 9kb) Word Icon (DOC 32kb)

Darllenwch y wybodaeth ganlynol yn ofalus oherwydd gallai arbed arian i chi ar eich archeb gyda Cantre Mobility.

Mesur Eithrio

Efallai y bydd rhai cynhyrchion a gyflenwir gennym yn gallu bod ar gael "Heb TAW" (cyfradd E) gan ddibynnu ar eich statws fel unigolyn neu elusen, a natur y cynnyrch. I roi syniad i chi, bydd cynhyrchion sy'n cynnwys y logo - fel arfer yn gallu cael eu prynu heb orfod talu TAW arnynt pan fyddant at ddefnydd personol a phan ddefnyddir yr eitem i drin anabledd yn unig neu pan fo'r arian i dalu am yr eitemau hyn yn dod o "ffynhonnell elusennol". Efallai y bydd modd prynu eitemau eraill heb y logo heb orfod talu TAW arnynt pan ddaw'r arian o ffynhonnell elusennol - cysylltwch â ni am fanylion. Mae gwybodaeth fanwl ar gael ar wefan Tollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi. Mae hefyd yn cynnwys adran dda ynghylch Cwestiynau a Ofynnir yn Aml.

Cynhyrchion Cymwys

Mae'r cynhyrchion y gellir cael gostyngiad TAW arnynt yn cynnwys cymhorthion a gynlluniwyd neu a addaswyd ar gyfer pobl sydd ag anabledd yn unig, yn ogystal â chynhyrchion a gynlluniwyd ar gyfer gofalu am anymatal neu ei drin. Mae cynhyrchion o'r fath ar gael heb orfod talu TAW pan gânt eu prynu'n uniongyrchol gan unigolyn at ddefnydd personol neu pan fydd elusen gofrestredig yn eu prynu ar gyfer unigolyn anabl yn unig.

Er mwyn i ni fodloni'n hymrwymiadau i Dollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi, ac er mwyn osgoi talu TAW ar rai eitemau, bydd yn rhaid i chi lofnodi ffurflen syml sy'n datgan eich bod yn gymwys i gael nwyddau o'r fath heb orfod talu TAW. Gellir lawrlwytho'r ffurflen hon trwy glicio ar y cysylltiadau ar frig y dudalen hon.

Er mwyn i ni gael gwybod eich bod wedi lawrlwytho'r ffurflen gostyngiad TAW a'ch bod yn bwriadu ei hanfon atom, cewch gyfle i'n hysbysu pan fyddwch yn mynd i'r ddesg dalu gyda'ch cart siopa ar-lein.

Sylwer mai dim ond ar y nwyddau y gallwn gynnig gostyngiad TAW, bydd yn rhaid talu TAW ar yr holl daliadau dosbarthu fel arfer.

Bydd pris terfynol eich cart siopa yn cynnwys TAW ar gyfer yr holl eitemau ac os felly, bydd yn uwch na'r pris y byddwch yn ei dalu yn y pen draw. Felly, byddwn yn cysylltu â chi yn fuan ar ôl i chi archebu i nodi'r cyfanswm newydd.

Cyn prosesu'ch taliad, byddwn yn aros nes i ni gael y ffurflen gostyngiad TAW gennych. Mae hyn yn golygu, fodd bynnag, y gallai fod ychydig oedi wrth ddosbarthu eich archeb gan na allwn ei ddosbarthu nes i ni gael eich datganiad. Os oes unrhyw ymholiadau, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu thrwy gyfrwng neges e-bost, neu gallwch anfon neges e-bost atom neu ffonio'r rhif rhadffôn sef 0808 100 11 33.

Gallwch lenwi'r ffurflen isod nawr a'i hargraffu. Dylech ei llofnodi a'i hanfon ar beiriant ffacs neu drwy'r post at:

Cantre Mobility
Sgwâr Alban,
Aberaeron
Ceredigion,
SA46 0AQ
Ffacs: 01545 571355

Os yw'r nwyddau ar gyfer plentyn neu unigolyn nad yw'n gallu ysgrifennu, mae llofnod rhiant, gwarcheidwad neu feddyg yn dderbyniol. Nodwch y berthynas rhwng y llofnodwyr a'r unigolyn sydd ag anableddau.

English

Bwyta
Caring Cutlery

Caring Cutlery

Offer dur gwrthstaen gyda dolenni mwy i'r rhai y mae eu gafael yn wan ac y mae eu gallu i symud eu garddynau neu eu bysedd yn gyfyngedig.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cantre Mobility - cyflenwr blaenllaw
offer a chymhorthion symudedd yng Nghymru